Lleoliad:
Conference Room 4B - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Iau, 4 Mai 2017
Amser: 11.00 -
12.30
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Bwrdd Rheoli: |
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Anna Daniel, Pennaeth Trawsnewid Strategol Non Gwilym, Pennaeth Cyfathrebu Elisabeth Jones, Prif Gynghorydd Cyfreithiol Mair Parry-Jones, Pennaeth y Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi Mark Neilson, Pennaeth TGCh a Dalledu Kathryn Potter, Pennaeth y Gwasanaeth Ymchwil Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau’r Comisiwn Sulafa Thomas, Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth i'r Comisiwn ac i'r Aelodau Dave Tosh, Cyfarwyddwr Adnoddau Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Lowri Williams, Head of Human Resources |
Staff y Bwrdd Rheoli: |
Liz Jardine (Ysgrifenyddiaeth) |
Eraill yn bresennol |
Croesawodd Manon y Bwrdd a diolchodd iddynt am ei helpu i ymgartrefu yn ei rôl newydd yn gyflym.
Cafwyd ymddiheuriadau gan Adrian Crompton (Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad), Nia Morgan (Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol), Matthew Richards (Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol) a Gareth Watts (Pennaeth Llywodraethu ac Archwilio).
Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.
Byddai Sulafa Thomas yn drafftio nodyn am drafodaeth y Bwrdd Rheoli ar gyfer y dudalen newyddion staff.
Cytunwyd fod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Rheoli a gynhaliwyd ar 23 Mawrth yn gywir.
Byddai'r achosion busnes a nodwyd yn y cyfarfod yn cael eu hystyried gan y Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau ar 11 Mai, ynghyd â'r costau a'r goblygiadau ar gyfer y flwyddyn ariannol 2017-18. Byddai Suzy Davies AC, Comisiynydd y gyllideb a llywodraethu, yn cael diweddariad ar gynlluniau wedi hynny ac adroddiad ar faterion staffio a baratowyd ar gyfer y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a'r Pwyllgor Cyllid.
Trafododd y Bwrdd yr asesiad wedi'i ddiweddaru o oblygiadau cynnydd yng nghapasiti'r Cynulliad a gofynnwyd iddo ystyried y materion y byddai angen eu trafod. Roedd asesiadau wedi'u darparu gan benaethiaid gwasanaethau o bob rhan o'r Cynulliad.
Heriodd y Bwrdd yr asesiadau a'r rhagdybiaethau a thrafodwyd a ydynt yn rhesymol, gan nodi'r gwahaniaeth rhwng cynnydd cymesur yn uniongyrchol a'r rhai a oedd yn fwy hapfasnachol. Cytunwyd y dylid rhoi mwy o ystyriaeth i gysondeb rhagdybiaethau a wneir ar draws y darn a chyflwyno'r amrywiadau a'r risgiau posibl a allai effeithio ar y tybiaethau hynny yn y dyfodol.
Camau i’w cymryd: Anna Daniel i ymgynghori â chydweithwyr i wella'r wybodaeth a gasglwyd ymhellach.
Croesawodd y Bwrdd Rebecca Hardwicke a Carys Rees i drafod canlyniadau arolwg boddhad cyntaf y Pumed Cynulliad. Nod yr arolwg oedd rhoi adborth er mwyn helpu i gyrraedd nod y Comisiwn o ddarparu Cefnogaeth Seneddol o'r Radd Flaenaf.
Nododd y Bwrdd, ar y cyfan, fod y canlyniadau'n dangos ymateb cadarnhaol i wasanaethau a ddarperir a bod cynnydd bach yn y sgorau yn gyffredinol. Gwnaed mwy o waith allgymorth gyda swyddfeydd etholaethol dros y cyfnod drwy TGCh, Diogelwch, Datblygiad Proffesiynol, Cyswllt Cyntaf Gogledd Cymru a Chymorth Busnes i'r Aelodau, gydag arolwg wedi'i deilwra yn cael ei gynhyrchu ar gyfer staff etholaethol.
Cafodd y canlynol ei gytuno:
· byddai ymholiadau a materion a godwyd gan unigolion a oedd wedi nodi pwy oeddent yn cael eu holrhain mewn ffordd gyfannol, gan gynnwys yr holl wasanaethau perthnasol;
· byddai Penaethiaid yn ystyried sut i ymgorffori adborth i'r broses o gyflwyno gwasanaethau lle bo hynny'n ymarferol; yn ogystal â sylwadau ar ymgysylltu a'u heffaith ar eu maes gwasanaeth eu hunain;
· byddai ystyriaeth yn cael ei rhoi i ffyrdd o'i gwneud yn haws i weithio yn Saesneg, lle mae'r testun Cymraeg yn ymddangos yn gyntaf;
· byddai'n werth cymharu adborth o'r arolwg staff sydd ar y gweill ar y Cynllun Ieithoedd Swyddogol a pharatoi i ymateb;
· byddai gwelliannau o bob gwasanaeth yn cael eu coladu ar ddiwedd y cyfnod ac yn cael eu cynnwys yn yr Adroddiad o Uchafbwyntiau i'r Comisiwn; a
· byddai neges yn cael ei darparu i'r Aelodau a staff cymorth fod y Bwrdd wedi edrych ar yr adborth dienw ac wedi ystyried gwelliannau, gan adrodd yn ôl ar gynnydd cyffredinol ac i unigolion maes o law.
Byddai crynodeb o'r canlyniadau yn cael ei drafod gydag Adam Price AC, y Comisiynydd sy'n gyfrifol am ddarparu a thrawsnewid gwasanaethau i'r Aelodau, a byddai'n cael ei ddarparu i'r Comisiynwyr y tu allan i'r cyfarfod wedi hynny. Diolchodd y Bwrdd i bawb a oedd yn rhan o'r gwaith o drefnu a chyfrannu at yr arolwg.
Cyflwynodd Lowri Williams adroddiad cryno chwarterol yr adran Adnoddau Dynol ar niferoedd staff, trosiant ac absenoldeb i'r Bwrdd Rheoli. Dyma hefyd chwarter olaf y flwyddyn ariannol ac roedd adroddiad manwl yn cael ei baratoi ar gyfer Penaethiaid Gwasanaeth.
Rhoddodd Manon Antoniazzi y wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am nifer o ddatblygiadau diweddar:
· newid i amserlen cyfarfodydd y Comisiwn ar gyfer mis Mehefin a mis Gorffennaf;
· y broblem gyda'r meicroffon a oedd wedi digwydd yn y Cyfarfod Llawn; a
· chynlluniau ar gyfer cyfres o gyfleoedd i staff gyfarfod â hi cyn diwedd tymor yr haf, gan gynnwys cyfarfod ar gyfer yr holl staff a digwyddiad anffurfiol ddydd Gwener 21 Gorffennaf, cyfarfodydd anffurfiol ar raddfa lai, a chynnig i ddod i gyfarfodydd tîm. Cafodd y Bwrdd Rheoli ei wahodd i gyfrannu unrhyw negeseuon allweddol.
Roedd y Llywydd wedi cael nodyn briffio ar effaith Gŵyl a Chynghrair Pencampwyr UEFA ym Mae Caerdydd a byddai cyfarfod mewn perthynas â pharhad busnes yn cael ei drefnu gyda'r Penaethiaid Gwasanaeth ar gyfer yr wythnos yn dechrau 15 Mai i drafod y trefniadau.